Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 5 Mawrth 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 12.26 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies AC (Cadeirydd) Christine Chapman AC Mike Hedges AC Ann Jones AC Julie Morgan AC Nick Ramsay AC William Powell AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Andrew Hewitt, Llywodraeth Cymru Nicholas Paines, Law Commission David Connolly, Law Commission Tom Frawley, Northern Ireland Ombudsman |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Richard Bettley (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Black AC ac Alun Ffred Jones AC.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd William Powell AC a oedd yn dirprwyo ar ran Peter Black AC.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
(Penderfynodd y Pwyllgor, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42, i gwrdd yn breifat ar gyfer eitem 3, 4, 5 a 6.)
3 Ystyriaeth Gychwynnol o'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru)
3.1 Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y Bil Llywodraeth Leol (Cymru).
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i roi tystiolaeth ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) ac i ysgrifennu at bob awdurdod lleol a fynegodd ddiddordeb i uno'n wirfoddol i ofyn am wybodaeth ar y gost o lunio achosion busnes.
4 Ystyried Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chynllun Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru 2015-2016
4.1 Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y cynigion i ymgorffori Cynllun Blynyddol 2015-2016 Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru mewn cynllun busnes tair blynedd. Cytunodd y Pwyllgor i ymateb yn ysgrifenedig gan ofyn i'r cynllun blynyddol barhau i gael ei gwblhau fel sy'n ofynnol dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
5 Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad - Ebrill-Rhagfyr 2014
5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad ar y cyfnod rhwng Ebrill a Rhagfyr 2014.
5.2 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i ysgrifennu at Claire Clancy am ragor o wybodaeth.
6 Treth Trafodiadau Tir: Papur briffio ffeithiol gan Lywodraeth Cymru
6.1 Cyflwynodd Llywodraeth Cymru wybodaeth i’r Pwyllgor ar Dreth Trafodiadau Tir.
7 Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 5
7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiwn y Gyfraith ar ei ymchwiliad i Ystyried Pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
8 Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 6
8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiwn y Gyfraith ar ei ymchwiliad i Ystyried Pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
9 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
9.1 Derbyniwyd y cynnig.
10 Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Trafod y dystiolaeth
10.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.